Melin Trefin Nyd yw'r felin heno'n malu Yn Nhrefin ar min y mor, Trodd y merlyn olaf adre' Dan ei bwn o drothwy'r ddor, Ac mae'r rhod fu gynt yn rhagnu Ac yn chwyrnu drwy y fro, Er pan farw'r hen felinydd, Wedi rhoi ei olaf dro. Rhed ffrwd garedig eto Gyda thalcen noeth y ty, Ond' ddaw neb ir fal a'I farlys, A'r hen olwyn fawr ni thry; Lle oedd gwenith gwyn Llanrhian Derfyn haf yn llwythi cras, Ni cheir mwy ond tres o wymon Gydag ambell frwynen las. Segyr faen sy'n gwilio'r fangre Yn y curlaw mawr a'r gwynt, Dilythyren garreg goffa O'r amseroedd difyr gynt; Ond' does yma neb yn malu, Namyn amser swrth a'r hin Wrthi'n chwalu ac yn malu, Malu'r felin yn Nhrefin. Archdruid Crwys Poem copyright of Archdruid Crwys. Page put together by & copyright of Yobunny September 1999. Updated August 2006 |